Broadcasting moments to the world - graphic tagline

Canolfan Darlledu Cymru

AMDANOM NI

Cyfleuster cynhyrchu o bell cwbl hygyrch sy’n arwain y ffordd yn y diwydiant, wedi’i leoli mewn lleoliad gwaith hyblyg, ger gorsaf drenau Caerdydd Canolog.

Entrance signage saying "Hello" The VT/Replay room door with the disabled access button and room information screen next to it Cymru Broadcast Centre hallway with a man passing over the ramp

CYFLWYNO

Cysylltedd blaengar a seilwaith cyflym. Mae Canolfan Darlledu Cymru yn hwyluso darlledu o ansawdd uchel, cynhyrchu effeithlon a darparu cynnwys di-dor.

HYGYRCHEDD

Mae’r Ganolfan yn un o’r canolfannau cynhyrchu o bell mwyaf hygyrch yn Ewrop.

Cyfleusterau

Mae ymagwedd ragweithiol at dechnolegau a methodolegau newydd yn sicrhau ein bod yn cadw ar y blaen mewn marchnad sy’n datblygu’n gyson.

01

Mae’r ystafell offer canolog yn wydn iawn. Mae pŵer yn cael ei ategu gan UPS a generadur, mae ffibrau’n cysylltu’r adeilad trwy lwybrau amrywiol, ac mae offer yn cael ei ddiogelu gan system atal tân nwy.

Mae digon o le storio a gwifrau ar gyfer offer ychwanegol i fodloni gofynion cynhyrchu unigol penodol. Mae EVS Cerebrum yn darparu rheolaeth hawdd ei defnyddio ar ein systemau darlledu.

Mae’r systemau craidd yn cynnwys:

  • Llwybrydd fideo Ross Ultrix, aml-wylwyr a chydamserwyr ffrâm
  • Sain craidd Calrec ImPulse1
  • Cysylltedd sain Comrex
  • ‘Talkback’ Riedel Artist 1024
  • ADDERLink KVM
  • Telestream SPG
Dangos
02

Mae gan PCR1 gyfluniad rhes driphlyg gyda lle i 14 aelod o’r criw gweithredol.

Yn cynnwys cymysgydd lluniau Sony XVS-7000, paneli ‘talkback’ Riedel 1200, cloc digidol Evertz a phentwr monitorau Sony Pro Bravia.

Mae’r gofod hwn yn hyblyg iawn i fodloni gofynion cynyrchiadau o bob maint.

Dangos
03

SCR1 has space for a Sound Supervisor, plus Sound Guarantee / Comms Engineer.

It is equipped with a Calrec Argo audio mixer and Riedel Director enables custom configuration of talkback panels for each user.

Dangos
04

Mae gan PCR2 gyfluniad rhes ddwbl gyda lle i 8 aelod o’r criw golygyddol a gweithredol.

Mae’r gofod hwn wedi’i gynllunio i gael ei deilwra i ofynion cynhyrchu unigol, gyda chymysgydd lluniau, paneli ‘talkback’ Riedel, a phentwr monitorau.

Dangos
05

Mae gan SCR2 le ar gyfer Goruchwyliwr Sain, ynghyd â Gwarant Sain / Peiriannydd Cyfathrebu.

Mae yna gymysgydd sain digidol ac mae Riedel Director yn galluogi cyfluniad personol o baneli talkback ar gyfer pob defnyddiwr.

Dangos
06

Mae gan yr MCR le i dri pheiriannydd fonitro a chefnogi pob system o fewn Canolfan Darlledu Cymru.

Mae ganddyn nhw offer i fonitro ansawdd yr holl signalau sy’n mynd i mewn, yn croesi ac yn gadael yr adeilad, fel Monitorau Ffurflen Tonnau Telestream ac Unedau Monitro Sain TSL.

Dangos
07

Mae gan yr Ystafelloedd Golygu Apple Mac Studio M2 Ultra o’r safon uachf, sy’n rhedeg yr Adobe Creative Cloud Suite llawn.

Mae’r Ystafelloedd Golygu yn cynnwys gwifrau ar gyfer ‘talkback’ a llinellau clymu fideo i gysylltu â gweddill y cyfleuster.

Dangos
08

Gellir cynnwys gwasanaeth talkback, monitorau ac offer arall yn y Swyddfa Gynhyrchu yn dibynnu ar ofynion cynhyrchu unigol.

Dangos
09

Gofod hyblyg ar gyfer rolau gweithredol ychwanegol fel ailchwarae EVS, a all weithio i mewn i’r naill PCR neu’r llall.

Mae gan yr ystafell le ar gyfer hyd at 11 o weithwyr, gyda KVM’s, paneli ‘talkback’ Riedel, monitorau a phaneli llwybryddion ym mhob safle gwaith.

Dangos

Hygyrchedd

Dyluniwyd ein hamgylchedd gwaith hygyrch, sy’n arwain y ffordd yn y diwydiant, ochr yn ochr â The Ability People.

01

Cyfleusterau

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys toiled mannau newid llawn offer, gyda theclyn codi pweredig, cawod, rheiliau cydio, larwm a sgrin breifatrwydd.

02

Mynediad

Mae’r coridorau yn ddigon llydan i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rampiau nodwedd, yn hytrach na grisiau. Mae gennym ni ddrysau â chymorth pŵer i’n horiel a’n hystafelloedd.

03

Arwyddion

Rhoddwyd sylw i’r lliwiau a ddewiswyd ar gyfer brandio ac arwyddion, tra bod arwyddion mewnol yn cael eu harddangos mewn braille.

04

Amgylchedd

Defnyddiwyd gwyrdd ym mhob rhan o’r cyfleuster (gan gynnwys ardal y gegin a’r toiledau), i helpu i greu amgylchedd tawelu.

05

Cynllun

Defnyddiwyd cyferbyniad lliw amlwg drwyddi draw i nodi rhwystrau ac ardaloedd, megis fframiau drysau, waliau a dodrefn.

Close up of disabled access door button Hallway of Cymru Broadcast Centre Close up of information screen for the facilities

CYSYLLTWCH

Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad penodol, cysylltwch â ni cyn eich ymweliad i drafod sut y gallwn helpu.

Cynyrchiadau

Agorwyd y Ganolfan Ddarlledu cyn Gemau Paralympaidd Paris 2024. Crewyd ar gyfer cynhyrchiad Whisper / Channel 4 ac mae’n gadael etifeddiaeth anhygoel i’r byd darlledu yng Nghymru.

Gweithio'n Hyblyg

01

Hwb Arloesi

Mae Tramshed Tech yn ganolbwynt arloesi heb ei ail sy’n meithrin twf busnesau technoleg, digidol a chreadigol yng Nghymru a thu hwnt.

02

Addasu

Mae ein cyfleusterau o’r radd flaenaf wedi’u cynllunio i addasu i’ch anghenion, o un diwrnod i flwyddyn. Rydym yn cynnig atebion byr-dymor i brydlesi hirdymor ar gyfer cyfresi estynedig neu gyfresi sy’n ailddigwydd.

03

Ehangu

Mae ein gofodau yn caniatáu ichi ehangu neu leihau eich gweithle wrth i’ch cynhyrchiad esblygu. Rydym yn darparu opsiynau desgiau dros-dro, aelodaeth cydweithio, gofod swyddfa hyblyg ac ystafelloedd cyfarfod llawn offer.

04

Gofod Digwyddiadau

Mae gennym le ar gael ar gyfer cyfarfodydd cynhyrchu, dangosiadau, partïon diwedd prosiect a digwyddiadau rhwydweithio.

05

Hyblyg

Mae ein hyblygrwydd yn sicrhau bod gennych y lle a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch. O dîm bach i dŷ cynhyrchu ar raddfa fawr, gall ein gofodau dyfu gyda’ch prosiect a darparu atebion effeithlon.

Cynaladwyedd

Cynhyrchu o bell yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy o gyflwyno cynhyrchiad byw ac rydym hefyd mewn lleoliad cyfleus ger gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Yn ogystal, rydym yn ymrwymo i:

  • 01
    Dim plastig un tro
  • 02
    Papur wedi'i ailgylchu
  • 03
    Batris y gellir eu hailwefru
  • 04
    Biniau ailgylchu
  • 05
    Rhannu car

MEWN PARTERNIAETH Â

Mae Timeline Television yn darparu cyfleusterau darlledu heb ei ail yn y diwydiant ar gyfer rhai o’r digwyddiadau chwaraeon ac adloniant mwyaf yn y byd.

Mae Tramshed yn canolbwyntio ar dair elfen graidd: mannau gwaith hyblyg sy’n tyfu gyda chi, rhaglenni cefnogol i fusnesau technegol newydd a hyfforddiant sgiliau busnes.

Yn gwmni cynhyrchu byd-eang sydd wedi ennill BAFTA, mae Whisper yn arbenigo mewn chwaraeon, rhaglenni dogfen ac adloniant heb ei sgriptio. Lleoedd Gorau i Weithio gan y Sunday Times.

Asiantaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cymru yw Cymru Greadigol sy’n cefnogi ac yn hyrwyddo twf y sectorau creadigol yng Nghymru, o ffilm a theledu i gerddoriaeth a gemau gan helpu i adeiladu dyfodol llewyrchus.

Partneriaeth o 10 cyngor sy’n gweithio i wella bywydau 1.5m o drigolion De-ddwyrain Cymru yw Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Ers 2017, mae PRC wedi bod yn trawsnewid yr economi, y dirwedd fusnes a’r potensial ar gyfer ffyniant cynhwysol.

Mae Media Cymru, o blaid Cymru ac am Gymru, a nod pennaf ein gwaith yw canolbwyntio ar Brifddinas-ranbarth Caerdydd. Rydym yn sbarduno twf economaidd cynaliadwy a chynhwysol yn sector cyfryngau Cymru.

Opsiynau hygyrchedd
Cefndir
Tywyll Golau
Ysgrifen mwy o faint
1x 1.5x 2x